ResourcesSearch IconSearch Icon
Postcard

Ceisiwch ddarparu profiadau gwaith ystyrlon er mwyn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch

Os gofynnwch i rywun ystyried beth mae profiad gwaith yn ei olygu, efallai y byddant yn cofio eistedd mewn swyddfa yn gwneud dim byd mwy na phaneidiau a llungopïo dogfennau. Fodd bynnag, mae'r byd wedi symud ymlaen. Dylai cyfleoedd profiad gwaith fod yn ystyrlon a chynnig profiad gwerth chweil sy'n caniatáu i unigolyn angerddol gael blas o'r sector sgrin. Pan gaiff ei roi ar waith yn dda, bydd hyn hefyd o fudd i chi fel busnes. Bydd union natur profiad gwaith, a pha mor hir y bydd yn para, yn dibynnu ar yr hyn y gall eich busnes ei gynnig, a'r hyn y mae'r unigolyn ei eisiau. Efallai y bydd rhai ond eisiau'r cyfle i gysgodi gweithiwr proffesiynol profiadol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau, tra bydd eraill yn barod i wneud llawer mwy o waith, gan fynd i'r afael â'r tasgau hynny eu hunain, gyda chymorth a goruchwyliaeth briodol. Mae'r blog hwn yn canolbwyntio ar yr olaf. 

Download IconDownload

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk 

Beth alla i ei wneud i gynnig profiad gwaith yn deg?

Y pwynt mwyaf hanfodol yw talu'n deg. Nid yw'n llafur am ddim - mae hwnnw'n hen syniad bellach. Mae'r rheini sy'n gweithio drwy'r dydd, yn cyfrannu at gefnogi eich busnes, yn haeddu cyflog teg. Ond y tu hwnt i'r ddadl foesol syml hon, mae talu am bob cyfle profiad gwaith yn eich galluogi i gael gafael ar yr unigolion mwyaf galluog ac angerddol sydd eisiau ychwanegu gwerth a gwneud gwaith gwych i'ch busnes, nid dim ond y rhai sy'n ddigon ffodus i beidio â chael biliau i boeni amdanynt. Ac mae hynny'n golygu talu cyflog priodol, nid dim ond ar gyfer treuliau - er y bydd cymorth gyda chostau teithio a/neu adleoli dros dro yn sicrhau bod y cyfle ar gael i bawb. 

Ystyriwch hefyd sut rydych chi'n recriwtio unigolion ar gyfer profiad gwaith. Mae'n gwbl annheg na all rhai pobl brofi eu hunain am nad ydynt yn ddigon ffodus i adnabod y bobl iawn yn barod. Mae camu y tu hwnt i gysylltiadau personol yn golygu eich bod yn gallu cael gafael ar yr unigolion mwyaf ymroddedig a thalentog â phosibl i helpu eich busnes i ffynnu. 

Felly dyna sut rydyn ni'n cael pobl wych..

Ond sut gallwn ni ei wneud yn brofiad gwerth chweil?

Y cam cyntaf bob amser yw eistedd gyda nhw ar eu diwrnod cyntaf - neu cyn iddynt ddechrau yn ddelfrydol - a chytuno ar rai o'r pethau y byddant yn eu gwneud yn ystod eu profiad gwaith. Efallai fod ganddyn nhw wybodaeth gadarn am eich busnes a'r sector sgrin yn barod, ond efallai y bydd angen arweiniad arnyn nhw hefyd ynghylch beth mae gwahanol aelodau o'r tîm yn ei wneud a sut gallai hyn gyd-fynd â'u nodau gyrfa. Cofiwch, nid gwas bach cyffredinol yw'r unigolyn ar brofiad gwaith. Rhowch dasgau ystyrlon iddyn nhw a fydd yn eu helpu i ddatblygu ac yn dangos y gorau o'n diwydiant iddyn nhw. Canolbwyntiwch ar y tasgau yr oedd yr unigolyn eisiau eu gwneud pan ddaeth atoch chi am y cyfle. 

Mae natur benodol profiad gwaith ystyrlon yn amrywio - mae'n dibynnu ar beth mae'r busnes yn ei wneud, pa mor fawr ydyw, ac yn hollbwysig, beth mae'r unigolyn ei eisiau. Ond mae nifer o bethau y dylech eu hystyried: 

  • Darparu arweiniad a goruchwyliaeth ddigonol. Peidiwch â'u gadael i fwrw ymlaen â'r gwaith ar eu pen eu hunain. Cynigiwch help iddyn nhw ac atebwch gwestiynau pan fydd angen hynny arnyn nhw. A rhowch adborth iawn iddyn nhw fel eu bod yn gwybod sut i wneud yn well y tro nesaf.  
     

  • Eglurwch beth mae tasg yn ei olygu. Cofiwch efallai na fydd unigolion llai profiadol yn gyfarwydd â phrosesau penodol neu jargon y diwydiant y mae eich cydweithwyr yn eu cymryd yn ganiataol. Mae hefyd yn helpu os ydyn nhw'n gallu deall pam mae angen gwneud tasg benodol a sut mae'n cyd-fynd ag amcanion ehangach y prosiect neu'r busnes. 
     

  • Rhowch gyfleoedd i gyfarfod a gweithio gyda phobl wahanol. Maen nhw'n gallu deall mwy am y busnes drwy weld beth mae pobl eraill ac adrannau gwahanol yn ei wneud. Efallai y byddan nhw'n dysgu am rywbeth sy'n addas iawn iddyn nhw. 
     

  • Cadwch olwg yn gyson. Gall cyfarfod rheolaidd â rheolwr neu bwynt cyswllt priodol eich helpu i ddeall sut mae'n mynd, beth arall yr hoffai ei wneud, ac unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arno. 
     

  • Mynediad at ‘gyfaill’. Mae cael 'cyfaill' dynodedig yn eu helpu i ymgartrefu a deall beth maen nhw'n ei wneud. Gallant gael help a mynd atynt gyda chwestiynau. Ystyriwch pwy allai fod y cyfaill mwyaf priodol - mae rhywun brwdfrydig ac agos-atoch, sy'n debyg o ran oedran, yn swnio'n berffaith! 
     

  • Cynigiwch brofiad gwirioneddol gynhwysol. Mae hynny'n golygu hyblygrwydd lle bo'n bosibl o ran hyd lleoliad profiad gwaith ac oriau gwaith, er enghraifft i gyd-fynd â gofal plant neu astudio. A gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw at oriau gwaith rhesymol, fel y cytunwyd ymlaen llaw. 
     

  • Mae agwedd gyfeillgar a chroesawgar yn fuddiol iawn i’w helpu i ymgartrefu a manteisio i'r eithaf ar y cyfle. Cymerwch amser i egluro beth rydych chi'n ei wneud a pham. A gall rhywbeth fel trefnu cinio gyda chydweithwyr fod yn ffordd wych o'u croesawu i'r tîm! 

Iawn. Ond beth yw'r manteision i mi?

Os nad yw dechrau gyrfa rhywun brwdfrydig yn ddigon o gymhelliant, cofiwch ei fod yn wych i fusnes hefyd. Nid yn unig y gall gynnig pâr ychwanegol o ddwylo y mae mawr eu hangen i aelodau prysur o staff, ond gall recriwtiaid newydd hefyd gynnig syniadau a safbwyntiau newydd. Efallai y bydd staff presennol yn mwynhau'r cyfle i hyfforddi a bod yn rheolwr llinell ar rywun newydd. Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i'r ymgeisydd perffaith ar gyfer rôl fwy parhaol yn eich tîm! Pan fydd profiad gwaith yn cael ei wneud yn dda, mae pawb yn elwa. 

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Harry Fox yn Gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (IES) 

0 Comments

Useful resources