ResourcesSearch IconSearch Icon
Postcard

Cofiwch gael sgyrsiau un i un gyda'ch gweithwyr i gael gwybod beth sydd ei angen

Gall siarad o flaen eraill fod yn anodd. Mae cael sgwrs breifat yn annog pobl i sgwrsio’n agored heb roi pwysau arnynt ac yn dangos iddynt eu bod nhw’n bwysig. 

Download IconDownload

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk

Sut wyt ti?

Dyma'r cwestiwn mwyaf cyffredin. Ond pa mor aml ydych chi'n gofyn y cwestiwn, ac yn bwysicach, yn gwrando ar yr ateb? Mae'n swnio'n syml, ond yn ystod prysurdeb y diwrnod gwaith, yr angen i gadw at derfynau amser tynn, neu wrth lywio drwy nifer o dasgau, gallwn anghofio gofyn y cwestiwn hwnnw, ac yn bwysicach fyth, aros i wrando ar yr ateb. 

Mae'n dda gallu siarad...

...ond nid yw bob amser yn hawdd.

Gall y stigma i ddatgelu pan nad yw rhywbeth yn hollol iawn atal staff rhag gofyn am help. Efallai y bydd angen lle diogel ar bobl i siarad, felly gall fod yn fuddiol dod o hyd i amser a lle i siarad am iechyd meddwl, pwysau gwaith a thrafferthion. Mae datblygu perthynas dda gyda'r rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw yn allweddol. Pan fydd hyn yn digwydd, gall eich 'antena' ar gyfer sylwi pan nad yw rhywbeth yn hollol iawn fod yn fwy craff gan arwain at ddechrau sgwrs. 

Gwrando, cefnogi a helpu

Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn frawychus i rai (ac mae'n gyffredin iawn teimlo fel hyn), ond os cânt eu gwneud yn gywir, mae rhai arferion da a all gyfrannu'n helaeth at gefnogi staff pan fydd angen hynny arnynt. Nid cwnselwyr na seicolegwyr yw rheolwyr ac ni ddylid disgwyl iddynt 'ddatrys' popeth. Ond mae ganddynt rôl allweddol o ran galluogi sgyrsiau, mewn modd cydweithredol ac anfeirniadol gobeithio, er mwyn darparu cymorth effeithiol.  

Pwysigrwydd y sgwrs

Mae sgwrs ddwyffordd yn sail i bob perthynas dda yn y gweithle. Po fwyaf rheolaidd y maent yn digwydd, y cyflymaf y byddant yn dod yn ddilys, llawn ymddiriedaeth, gan arwain unigolion i deimlo'n ddiogel, a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i drafod yr hyn a allai fod yn eu poeni.  

Gall cyfathrebu heb ei gynllunio, llai ffurfiol fod yn ffordd wych o ddangos diddordeb gwirioneddol mewn unigolion a dylid ei annog. Gall holi am eu penwythnos, beth wnaethon nhw gyda'r nos, neu beth maen nhw'n mwynhau ei wneud y tu allan i'r gwaith fod yn ffordd hawdd o dorri'r iâ. 

Gall cyfarfodydd un-i-un mwy ffurfiol fod yn lleoliad defnyddiol i gadw golwg ar iechyd meddwl, llesiant a llwyth gwaith, ac arwain at sgyrsiau pellach am ba gymorth, os o gwbl, y gellid ei ddarparu. 

Nodi'r materion

Mae'n bwysig deall sut i gefnogi llesiant staff. Ni ddylid rhuthro na gwasgu'r sgyrsiau hyn i funudau olaf cyfarfod rheoli llinell. Mewn gwirionedd, gall gymryd sawl sgwrs cyn i unigolyn deimlo'n barod i archwilio sut mae’n teimlo'n fwy agored. Gall cwestiynau y gellid eu defnyddio i helpu i annog trafodaethau gynnwys: 

  • Beth sy'n dy helpu i ffynnu yn y gwaith? 

  • Beth sy'n dy gadw di'n iach yn y gwaith? 

  • Beth wyt ti’n ei fwynhau yn y gwaith? 

  • Beth sy'n cael effaith negyddol arnat ti yn y gwaith ar hyn o bryd? 

Rôl rheolwr yma yw gwrando'n astud, gofyn cwestiynau agored a defnyddio ymadroddion diduedd a allai annog sgwrs bellach, fel "Mae hynny'n sicr o fod yn anodd i ti. Pa effaith wyt ti’n feddwl y mae hyn wedi'i chael ar...’ neu 'Mae'n ddrwg gen i glywed hynny, beth wyt ti'n feddwl yw'r camau gorau nesaf i ti?'.  

Efallai y byddai'n ddefnyddiol trafod pa gamau sy'n cael eu cymryd yn dilyn y sgyrsiau hyn a allai arwain at ragor o sgyrsiau am addasiadau i'r gweithle a chyfeirio. 

Dal ati i holi

Dylech barhau i holi, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i gynnal deialog agored am lesiant. Gofynnwch am adborth am y cymorth rydych chi'n ei ddarparu ac a oes angen unrhyw beth arall. Mae cael sgyrsiau o'r fath yn gryfder rheoli. Mewn sefyllfaoedd o bwysau a straen uchel, mae estyn allan mewn ffordd gyfeillgar yn un o gyfrifoldebau craidd rheolwyr, a gall staff fod yn fwy brwdfrydig ac yn gryfach pan fyddant yn cael ymateb empathig. 

Dod o hyd i amser i siarad

Gall gofyn y pedwar gair bach, 'Sut wyt ti?' wneud gwahaniaeth mawr. Gall greu lle diogel, clust i wrando a chyfle i staff gael sgyrsiau anodd am faterion yn ymwneud â'r gweithle a llesiant. Efallai nad yw'n hawdd ar y dechrau, ond mae'n werth chweil. Mae cymryd amser i estyn allan a holi yn ddechrau pwysig i sicrhau gwell canlyniadau i staff a busnesau. 

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Sofia Bajorek, Uwch Gymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth 

 

0 Comments

Useful resources

Work Wise for Screen | Cofiwch gael sgyrsiau un i un gyda'ch…