ResourcesSearch IconSearch Icon
Postcard

Dirprwywch i'r unigolyn lleiaf profiadol sy’n gallu cymryd y cyfrifoldeb

Mae dangos eich bod yn ffyddiog yng ngallu unigolyn yn magu ei hyder ac yn rhoi mwy o foddhad iddo o’r swydd. Bydd hyn hefyd yn eich helpu chi i ddatblygu a chadw’r bobl mae eich busnes yn dibynnu arnyn nhw. 

Contents:

Download IconDownload

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk

Mae dirprwyo yn sgil arweinyddiaeth graidd sy'n cefnogi lles staff a pherfformiad busnes. Yn ein hamgylcheddau gwaith sy'n mynd yn fwyfwy deinamig a chymhleth, ni all rheolwyr wneud popeth eu hunain - ac ni ddylent wneud hynny. Mae dirprwyo'n golygu trosglwyddo cyfrifoldeb ac awdurdod dros dasgau neu benderfyniadau penodol o un person (rheolwr neu arweinydd fel arfer) i un arall (yn aml yn is-weithiwr uniongyrchol neu'n aelod o dîm). Fodd bynnag, nid dim ond aseiniad tasg yw hyn. Mae'n cynnwys rhoi ymreolaeth a chefnogaeth i aelod o'r tîm wrth roi mwy o gyfrifoldeb am dasg iddo. 

Pan gaiff ei wneud yn iawn, mae dirprwyo yn gwella ansawdd swyddi drwy rymuso staff, datblygu sgiliau a rhoi mwy o ymdeimlad o ystyr yn y gwaith. Mae hefyd yn gwella perfformiad drwy gefnogi cymhelliant, ymrwymiad a gwneud penderfyniadau mwy effeithlon. I staff uwch, gall helpu i atal llwythi gwaith anghynaliadwy ac atal tagfeydd. Fodd bynnag, mae mwy nag un ffordd o ddirprwyo. Mae llwyddiant yn dibynnu'n fawr ar sut mae gwaith yn cael ei ddirprwyo ac i bwy  

Pwy?

Mae ymchwil yn awgrymu nad grymuso cyffredinol yw'r ateb o bosibl. Gall effeithiau amrywio o un i’r llall, a gall fod costau anfwriadol i lesiant ac effeithlonrwydd. Er enghraifft, bydd dirprwyo tasgau nad oes gan aelodau'r tîm yr adnoddau na'r sgiliau i'w cyflawni'n iawn yn achosi straen ac efallai’n achosi gwneud penderfyniadau gwael neu gyflawni tasgau'n annigonol. Yn lle hynny, awgrymir dull detholus o rymuso.  

Pryd mae'n briodol dirprwyo tasgau? Yn ddelfrydol, dylid dirprwyo tasgau i'r rhai sydd wedi dangos eu bod yn gallu eu gwneud o'r blaen ac sy'n awyddus i gael mwy o ymreolaeth. Yn ymarferol, gall rheolwr ddirprwyo tasgau llai, risg is i staff i ddechrau, gan gadw dirprwyo penderfyniadau uchel eu heffaith i'r rhai sydd wedi dangos sgiliau a dibynadwyedd. Mae'r strategaeth hon yn helpu i liniaru risgiau gwneud camgymeriadau, yn helpu i gael staff i arfer â diwylliant gweithio o rymuso, gan ehangu grymuso lle mae'n debygol o dalu ar ei ganfed ar yr un pryd. 

Beth a sut?

Nid yw pob math o brosesau ymreolaeth neu rymuso gwaith yr un mor ddefnyddiol. Yr agweddau ar waith sy'n tueddu i fod fwyaf cynhyrchiol i reolwyr eu dirprwyo neu roi disgresiwn iddynt yw’r tasgau a wneir a sut maen nhw'n cael eu gwneud (h.y. dulliau gwaith). Ar y llaw arall, dylai rheolwyr fod yn fwy gofalus ynghylch pryd mae tasgau'n cael eu gwneud (h.y. amserlennu ymreolaeth), yn enwedig mewn tasgau sy'n sensitif i amser neu sy'n ddibynnol ar ei gilydd, gan fod hyn yn tueddu i fod yn llai defnyddiol neu gallai gael effaith negyddol hyd yn oed. 

Mae dewis tasg hefyd yn bwysig iawn wrth ddirprwyo:  

  • Dim ond pan fydd gan aelod o'r tîm y gallu cywir a phan fydd y gefnogaeth gywir ar waith y dylid dirprwyo tasgau sy'n gymhleth neu'n bwysig iawn. 

  • Mae dirprwyo tasgau mewn ffordd sy'n cyd-fynd â sut mae staff eisiau datblygu yn gwella eu cymhelliant a'u cred yn eu gallu eu hunain. 

  • Peidiwch â rhoi gormod o waith i staff! Gall cyfyngiadau capasiti leihau effeithiolrwydd ac arwain at orweithio staff neu wallau. Darllenwch ein blog am lwyth gwaith

Rhai ffyrdd syml o sicrhau cefnogaeth i staff:  

  • Darparu hyfforddiant neu gyfle i gysgodi cyn dirprwyo cyfrifoldebau newydd. 

  • Sicrhau bod gan staff yr adnoddau, y data a'r awdurdod sydd eu hangen i weithredu. 

  • Diffinio elfennau gwarchod (cyllidebau, terfynau amser, protocolau uwchgyfeirio) fel nad yw ymreolaeth yn arwain at anhrefn. 

  • Cynnig arweiniad gan barhau i ganiatáu rhyddid i weithredu. 

Mae'r dulliau cefnogi hyn yn lleihau'r risg o fethu ac yn gwella hyder, sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd dirprwyo yn arwain at enillion net. 

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Arundhati Dave, Cymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth

Ffynonellau: 

Biron, M., & Bamberger, P. (2010). The impact of structural empowerment on individual well-being and performance: Taking agent preferences, self-efficacy and operational constraints into account. Human Relations, 63(2), 163–192. 

Gifford, J., & Young, J. (2021). Employee Engagement: Definitions, Measures and Outcomes. Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD).

Landry, L. (2020, January 14). How to delegate effectively: 9 tips for managers. Harvard Business School Online. 

Muecke, S., & Iseke, A. (2019). How does job autonomy influence job performance? A meta-analytic test of theoretical mechanisms. Academy of Management Proceedings, 2019(1), 816–821.

Sukhoroslova, S. (2025, February 6). A Leader’s Guide to Effective Team Management. Sana Ross. Retrieved October 17, 2025

0 Comments

Useful resources