Wrth fentro’r tu hwnt i’r mannau arferol wrth gyflogi, efallai y byddwch chi’n dod o hyd i bobl wahanol. Gall cael gweithwyr o wahanol gefndiroedd wneud eich busnes chi’n unigryw mewn byd sy’n newid

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk
Yn niwydiant sgrin y DU, mae pwy rydych chi'n ei gyflogi yn ffurfio’r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei weld. Mae recriwtio yn aml yn dechrau mewn mannau cyfarwydd, gan hysbysebu yn yr un lleoedd, dibynnu ar gysylltiadau personol ac ar lafar gwlad. Ond mae glynu wrth yr un hen ddull yn golygu eich bod yn debygol o ddod o hyd i'r ymgeiswyr arferol. Mae mwy i recriwtio cynhwysol na thegwch. Mae'n ymwneud â dod o hyd i bobl sy'n dod â syniadau newydd, profiad bywyd ac amrywiaeth o sgiliau. Mae'n ymwneud â chreu timau sy'n adlewyrchu'r byd rydyn ni'n byw ynddo a'r cynulleidfaoedd rydyn ni'n eu gwasanaethu.
Gall cyflogi drwy'r 'llyfr bach du' o gysylltiadau a rhwydweithiau personol fod yn ddull dibynadwy neu'n ddull angenrheidiol wrth uwchraddio'n gyflym. Efallai y bydd yn teimlo'n anodd rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Ond gallwch ddechrau drwy ehangu eich rhwydwaith a chysylltu â phobl mewn ffordd wahanol:
Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, elusennau a sefydliadau ieuenctid sy'n cefnogi grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. Mae Bloody Norah TV a Look Beyond the List yn cynnig cyfeiriaduron cynhwysfawr - man cychwyn ardderchog ar gyfer dod o hyd i bartneriaid posibl.
Cysylltu ag amrywiaeth eang o leoliadau addysg - colegau, canolfannau addysg oedolion a rhwydweithiau prentisiaeth. Maen nhw'n denu dysgwyr o ystod oedran eang a chefndiroedd amrywiol, yn aml a chanddynt phrofiad yn y byd go iawn.
Defnyddiwch fyrddau swyddi arbenigol, sydd wedi'u hanelu'n benodol at grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. Mae'r safleoedd hyn yn creu mannau diogel i ymgeiswyr a allai osgoi llwyfannau nodweddiadol.
Mae Diverse Jobs Matter yn cefnogi pob grŵp sy'n cael ei dangynrychioli, ac mae llwyfannau fel Evenbreak, LGBT Jobs a BME Jobs yn targedu cymunedau penodol. Gall platfformau gweithio hyblyg hefyd fod yn fannau defnyddiol i hysbysebu er mwyn denu talent amrywiol. Mae llawer o opsiynau ar gael, felly ystyriwch beth sydd orau i anghenion eich sefydliad.
Mae taflu rhwyd ehangach yn agor y drws i gyfoeth o ymgeiswyr nad ydynt efallai erioed wedi dychmygu eu hunain yn ymuno â'ch sefydliad. Ond gallai ehangu eich cyrhaeddiad heb graffu ac addasu eich negeseuon a'ch prosesau ddieithrio'r union bobl rydych chi'n ceisio eu denu.
Gellir mynd i'r afael â phrosesau recriwtio cynhwysol mewn tameidiau bach; does dim rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith. Mae'n ddefnyddiol ei ddadansoddi a meddwl sut mae swyddi'n cael eu hysbysebu, eu hasesu a'u llenwi. Mae gwneud newidiadau ymwybodol yn arbennig o bwysig mewn gweithleoedd yn y diwydiant sgrin, lle gall cyflogi anffurfiol a thrawsnewidiadau cyflym daflu blaenoriaethau dod o hyd i dalent amrywiol i'r cysgod yn hawdd, ac yn anfwriadol. Dechreuwch drwy adolygu eich taith gyflogi gyda llygaid ffres, ac asesu eich perfformiad ar draws y meysydd allweddol hyn:
Llunio hysbysebion swyddi cynhwysol
Defnyddiwch iaith glir, ddiduedd, a chanolbwyntio ar ddisgrifio'r sgiliau sydd wir eu hangen arnoch ar gyfer y swydd, nid sut rydych chi'n dychmygu beth yw ymgeisydd nodweddiadol
Dylech osgoi termau fel 'brodor digidol' neu 'wedi graddio’n ddiweddar', sy'n cyfyngu ar eich cronfa o ymgeiswyr yn ddiangen. Dylech hefyd osgoi termau fel 'gweithio'n galed, chwarae'n galed', sy'n ffordd gynnil o eithrio pobl sydd â gwerthoedd gwahanol.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod graddau neu gymwysterau yn hanfodol. Byddwch yn agored i sgiliau mae modd eu trosglwyddo a phrofiad o ddiwydiannau eraill.
Dylech gyhoeddi'r cyflog ac amlinellu opsiynau gweithio hyblyg ymlaen llaw.
Defnyddiwch ddelweddau a negeseuon sy'n adlewyrchu amrywiaeth ac yn herio stereoteipiau am allu ac ymddangosiad.
Yn hytrach na gofyn am CV, ystyriwch ffurflenni cais sy'n tynnu sylw at feini prawf sy'n berthnasol i'r swydd.
Dylech gynnig fformatau cyfweld hyblyg a mynd ati'n rhagweithiol i ofyn i ymgeiswyr a oes angen unrhyw addasiadau arnyn nhw. Gallai hyn gynnwys rhannu cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw, cynnig opsiynau cyfweld rhithwir neu sicrhau bod mannau ffisegol yn hygyrch.
Defnyddiwch gwestiynau cyfweliad safonol ar gyfer pob ymgeisydd, gan ganolbwyntio ar feini prawf sy'n berthnasol i'r swydd.
Defnyddiwch dasgau sy'n mesur sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd, neu ofyn am dapiau arddangos, yn hytrach na dibynnu ar elfennau dirprwyol fel addysg neu nifer penodol o flynyddoedd o brofiad.
Gallai hyn fod ychydig yn anoddach i'w wneud, ond i sicrhau ymarfer 'safon aur', gallwch wneud CVs neu ffurflenni cais yn ddienw, gan ddileu gwybodaeth ddemograffig fel enwau, oedrannau ac ethnigrwydd.
Dylech greu fframwaith sgorio cyfweliadau a'i gymhwyso'n gyson ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn sicrhau cymhariaeth deg.
Peidiwch â gadael i un person wneud penderfyniadau. Defnyddiwch baneli amrywiol a herio penderfyniadau a wneir ynghylch 'ffit ddiwylliannol'.
Nid yw creu proses recriwtio gynhwysol lwyddiannus yn cael ei wneud drwy weithredu ambell beth newydd a symud ymlaen; mae'n daith ailadroddus sy'n gofyn am fyfyrio a dysgu. Dylech gasglu data ar bob cam i archwilio eich arferion, datgelu patrymau, a mynd i'r afael â materion yn gynnar. Mae sylwi ar broblemau'n gyflym yn golygu y gallwch addasu eich dull gweithredu a phrofi atebion ymarferol.
Nid dim ond y peth iawn i’w wneud yw recriwtio cynhwysol; mae'n fantais gystadleuol i ni. Bydd manteisio ar gronfa dalent wirioneddol amrywiol yn cryfhau eich tîm, yn tanio creadigrwydd newydd ac yn sicrhau bod eich gwaith wir yn taro tant gyda'ch cynulleidfaoedd.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Megan Edwards, Uwch Gymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth