ResourcesSearch IconSearch Icon
Postcard

Manteisiwch ar gryfderau ac egni pobl drwy addasu'r ffordd rydych chi’n gweithio

Mae caniatáu i bobl weithio oriau hyblyg, rhoi gofod tawel iddynt weithio, cynnal cyfarfodydd byrrach neu roi cyfarwyddiadau cliriach yn gallu helpu pobl sydd â gwahanol anghenion i wneud eu gwaith yn well.  

Download IconDownload

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk

Yr angen am addasiadau rhesymol

Mae gwneud addasiadau rhesymol yn hanfodol i fusnesau o bob maint yn y sector sgrin - nid yn unig er mwyn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, ond er mwyn meithrin gweithleoedd cynhwysol sy'n perfformio'n dda. Gyda 24% o'r boblogaeth oedran gweithio yn nodi eu bod yn anabl, mae'r addasiadau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau mynediad teg a chyfranogiad ystyrlon, yn enwedig i staff anabl a niwrowahanol, yn ogystal â'r rheini sydd â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol. Ar wahân i fod yn ofyniad cyfreithiol, maent yn fantais strategol - gan rymuso talent amrywiol i ffynnu a chyfrannu'n llawn. 

  • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod cyflogwyr yn gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar rwystrau ac atal anfantais, sy'n arbennig o bwysig mewn amgylcheddau deinamig, llawn pwysau fel y diwydiannau sgrin. 

  • Mae addasiadau rhesymol yn hanfodol yn y diwydiannau sgrin i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol anabl - gan gynnwys y rheini sydd â chyflyrau corfforol, synhwyraidd ac iechyd meddwl - yn gallu cymryd rhan lawn mewn rolau creadigol a chynhyrchu. 

  • Mewn sector sy'n seiliedig ar adrodd straeon a chynrychiolaeth, mae gwreiddio addasiadau rhesymol yn ddyletswydd gyfreithiol ac yn rheidrwydd creadigol. 

Diffinio addasiadau rhesymol

Yn ôl ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), mae addasiadau rhesymol yn newidiadau sy'n dileu neu'n lleihau anfanteision sy'n gysylltiedig ag anabledd unigolyn. Mae’r rhain yn gallu cynnwys: 

  • Newid trefniadau gwaith (e.e. oriau hyblyg, gweithio o bell) 

  • Darparu offer neu gymorth (e.e. technoleg gynorthwyol, dehonglwyr) 

  • Addasu fformatau cyfathrebu (e.e. dogfennau hygyrch, cymhorthion gweledol) 

  • Addasu amgylcheddau ffisegol (e.e. goleuadau, seddi, llwybrau mynediad) 

Dylid teilwra'r addasiadau hyn i'r unigolyn ac mae'r gyfraith yn mynnu eu bod yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fydd yr unigolyn yn cael ei gyflogi i wneud y gwaith yn bersonol - hyd yn oed os yw'n weithiwr llawrydd. 

Cymhwysiad ehangach

Mae meithrin diwylliant yn y gweithle lle mae addasiadau rhesymol yn arfer safonol o fudd i bawb - nid dim ond y rheini sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd. Pan fydd pob aelod o staff yn cael ei gydnabod fel unigolyn, gall sgyrsiau agored am yr arddulliau gweithio sy'n cael eu ffafrio ac addasiadau defnyddiol arwain at fwy o effeithiolrwydd a boddhad yn gyffredinol. Er enghraifft, er bod y strategaethau canlynol yn arbennig o gefnogol i staff niwrowahanol, gallant hefyd wella cynhyrchiant a llesiant y gweithlu ehangach: 

  • Briffiau a therfynau amser clir a strwythuredig 

  • Arddulliau cyfathrebu hyblyg (e.e. ar bapur yn hytrach nag ar lafar, neu i'r gwrthwyneb) 

  • Cydnabod cryfderau - canolbwyntio ar dalent, nid ar gyfyngiadau 

Awgrymiadau ar gyfer rhoi addasiadau rhesymol ar waith

  • Gwneud addasiadau'n rhagweithiol ac ar y cyd. 

  • Gwneud eich proses recriwtio yn fwy hygyrch. 

  • Gofyn i (bawb) am anghenion mynediad cyn gynted â phosibl wrth ymgysylltu. 

  • Bod yn agored i gyflwyno addasiadau rhesymol newydd. 

  • Dathlu addasiadau rhesymol sy'n cefnogi staff i berfformio ar eu gorau. 

  • Trin gweithwyr llawrydd â'r un ddyletswydd gofal â gweithwyr cyflogedig. 

 Efallai y bydd rhai gweithwyr yn gymwys i gael grantiau Mynediad at Waith.  

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Astrid Allen, Cymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth 

0 Comments

Useful resources