Mae’r Canllaw hwn yn crynhoi’r gyfraith sy’n sail i arferion gweithio da yn Sector Sgrin y DU.

Mae’r Canllaw hwn yn crynhoi’r gyfraith sy’n sail i arferion gweithio da yn Sector Sgrin y DU.
Mae rhai arferion gwaith yn achosi niwed, ac mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gymryd camau i fynd i’r afael â nhw. Gallai methu â gwneud hynny arwain at drychinebau personol, niwed i enw da, a lefelau iawndal heb eu capio.
Dim ond crynodeb byr yw'r canllaw hwn. Mae rhai rheolau’n berthnasol i gyflogeion yn unig, ac mae rheolau eraill yn fwy perthnasol i weithwyr. Mae rhai rheolau’n berthnasol i bawb, gan gynnwys gweithwyr llawrydd. Efallai y bydd angen cyngor proffesiynol arnoch chi i ddelio â sefyllfa benodol.
Er mwyn eich helpu i gymryd camau i gydymffurfio â’r cyfreithiau hyn, mae WorkWise wedi creu adnoddau ar-lein sy’n gyfredol, yn benodol i sector, ac yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n cynnwys dogfennau a pholisïau enghreifftiol, erthyglau, ac yn cyfeirio at ganllawiau eraill.

Y Gyfraith
Y berthynas gyfreithiol sylfaenol rhwng cyflogwr a’i weithlu, gan roi sylw i ddiswyddo annheg, hawliau absenoldeb statudol, a therfynu contractau. Mae’n nodi’r prif wahaniaethau rhwng cyflogeion, gweithwyr a chontractwyr / gweithwyr llawrydd.
Effaith
Mae’n sefydlu paramedrau allweddol ar gyfer darparu gwybodaeth am swyddi, contractau cyflogaeth, a chytundebau gwasanaeth.
Mae Tâl Salwch Statudol (SSP) wedi dod yn hawl diwrnod cyntaf, sy’n daladwy o ddiwrnod cymwys cyntaf y salwch. O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd y cyfnod cymwys presennol i hawlio am ddiswyddo annheg yn gostwng o ddwy flynedd i chwe mis, sy’n golygu bod monitro perfformiad yn gynnar yn angenrheidiol yn fasnachol. Disgwylir rhagor o newidiadau i reolau sy’n ymwneud â chontractau dim oriau. Gallai torri amodau arwain at lefelau iawndal heb eu capio.

Y Gyfraith
Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i wirio a dilysu bod gan bob unigolyn maen nhw’n eu cyflogi yr hawl i weithio yn y DU cyn dechrau gweithio. Mae hyn yn berthnasol i gyflogeion, gweithwyr ac, mewn rhai amgylchiadau, contractwyr.
Effaith
Gyda chyd-gynyrchiadau rhyngwladol, talent sy’n ymweld, a gweithlu llawrydd sy’n symud o gwmpas llawer, mae cydymffurfio â’r hawl i weithio yn risg fyw i bob cynhyrchiad. Rhaid cwblhau’r broses gwirio cyn diwrnod cyntaf y gyflogaeth, nid wedyn.
Mae cyflogi pobl a hwythau heb yr hawl i weithio yn gallu arwain at ddirwy o hyd at £60,000, ac mewn achosion difrifol, erlyniad troseddol.

Y Gyfraith
Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i unrhyw fusnes sy’n cyflogi cyflogeion fod ag yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr gydag o leiaf £5 miliwn o warchodaeth.
Effaith
Rhaid i gynyrchiadau sy’n cyflogi cyflogeion, hyd yn oed ar sail tymor byr neu gyfradd ddyddiol, feddu ar bolisi atebolrwydd cyflogwyr dilys cyn i unrhyw un ddechrau gweithio. Mae methu â gwneud hyn yn golygu dirwy o hyd at £2,500 y diwrnod am beidio â chydymffurfio. Rhaid i’r polisi gael ei arddangos neu mae’n rhaid sicrhau bod y polisi ar gael. Mae’n anodd iawn penderfynu’n bendant a yw rhywun yn gyflogai, yn weithiwr neu’n weithiwr llawrydd.

Y Gyfraith
Mae’r gyfraith yn gwarchod unigolion rhag gwahaniaethu, aflonyddu, ac erledigaeth ar sail naw o nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol).
Effaith
Rhaid i fusnes ddileu gwahaniaethu uniongyrchol (triniaeth lai ffafriol) a gwahaniaethu anuniongyrchol (defnyddio rheol neu arfer sy’n ymddangos yn unffurf sy’n rhoi grŵp gwarchodedig penodol dan anfantais anghymesur). Rhaid gwneud addasiadau rhesymol hefyd ar gyfer cyflogeion ag anableddau. Gallai torri amodau arwain at lefelau iawndal heb eu capio, gan gynnwys ar gyfer brifo teimladau.
Mae modd defnyddio Polisi Urddas yn y Gwaith hefyd i gysoni’r gyfraith â chodau ymarfer y diwydiant. Gweler gwefan WorkWise am enghraifft (dolen ar y clawr cefn).

Y Gyfraith
Dyletswydd statudol ar gyflogwyr i gymryd “camau rhesymol” i ddiogelu eu gweithlu rhag aflonyddu rhywiol. O fis Hydref 2026 ymlaen, mae’r ddyletswydd yn newid i “pob cam rhesymol”. Mae’r Canllawiau Anstatudol yn cael eu gosod yn nogfen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sef Canllawiau Technegol ar Aflonyddu ac Aflonyddu Rhywiol yn y Gwaith a Chanllaw 8 Cam y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Gyflogwyr.
Effaith
Mae hyn yn symud sylw rheoleiddiol o fodel adweithiol (ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i gŵyn gael ei chyflwyno) i fodel rheoli risg sy’n edrych tua’r dyfodol. Rhaid i fusnes fapio peryglon amgylcheddol, yr anghydbwysedd pŵer yn y strwythur, a risgiau aflonyddu posibl gan drydydd parti, nid dim ond ymateb i’r rhain ar ôl iddyn nhw ddigwydd. Rhaid cynnwys risgiau trydydd parti wrth fapio risg cyn y cynhyrchu. Os caiff y ddyletswydd hon ei thorri, bydd tribiwnlys cyflogaeth yn cael dyfarnu hyd at 25% o gynnydd ar unrhyw ddyfarniad llwyddiannus.

Y Gyfraith
Mae’n diogelu gweithwyr rhag triniaeth niweidiol neu rhag cael eu diswyddo am wneud datgeliadau gwarchodedig. Mae diffiniad eang i’r term “gweithwyr” ac mae’n cynnwys gweithwyr asiantaeth, gweithwyr llawrydd, gweithwyr ar secondiad, a gweithwyr cartref. Mae modd gwneud datgeliadau gwarchodedig i gyflogwr, person rhagnodedig (gan gynnwys CIISA), cynghorwyr cyfreithiol, ac mewn rhai sefyllfaoedd, cyrff gorfodi’r gyfraith a’r cyfryngau.
Effaith
Os bydd busnes yn eithrio rhywun neu symud rhywun i rôl lai, yn peidio ag ailgyflogi, neu’n cosbi chwythwr chwiban am godi llais, gallai wynebu hawliad heb ei gapio mewn tribiwnlys cyflogaeth am niwed, diswyddo annheg a/neu erledigaeth. Ni ddylai busnesau atal chwythu’r chwiban mewn cytundebau cyfrinachedd, cytundebau peidio â datgelu, na chytundebau setlo. Mae diogelu sianeli adrodd rhag niwed proffesiynol yn brif ddyletswydd o ran cydymffurfio.

Y Gyfraith
Mae’n gosod dyletswydd statudol ar fusnesau i gynnal asesiadau risg “addas a digonol” ac i sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch, a lles cyflogeion a thrydydd partïon sy’n ymwneud â phrosiect. Mae canllawiau anstatudol wedi’u nodi yn nogfen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Safonau Rheoli ar gyfer Straen sy’n Gysylltiedig â Gwaith.
Effaith
Mae’n golygu bod diwylliant y gweithle yn cael ei rwymo’n gyfreithiol yn uniongyrchol i ddiogelwch.
Mae gan bob busnes ddyletswydd i gynnal asesiad risg addas a digonol o beryglon corfforol a seicogymdeithasol. Mae cofnodi’r broses tracio hon yn creu trywydd archwilio y gall awdurdodau archwilio fynnu ei weld.

Y Gyfraith
Rhaid i fusnesau werthuso a rheoli peryglon corfforol a seicogymdeithasol yn y gweithle yn systematig (yn bennaf drwy asesiadau risg), penodi unigolion cymwys i oruchwylio prosesau cydymffurfio sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, a darparu gwybodaeth a hyfforddiant cynhwysfawr i gyflogeion. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cyhoeddi adnoddau a chanllawiau sy’n benodol i’r sector.
Effaith
Mae angen cofnodi asesiadau risg sy’n mynd i’r afael â sbardunau gweithredol ac amgylcheddol. Rhaid i fusnes fynd ati i fapio a gweithredu mesurau lliniaru ar gyfer mannau pwysau sy’n risg uchel. Ni allwch brofi eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol i liniaru risgiau heb asesiadau risg ysgrifenedig.

Y Gyfraith
Y canllawiau anstatudol y mae tribiwnlysoedd yn edrych arnyn nhw wrth ystyried sut mae cyflogwyr yn delio ag anghydfodau, cwynion a phrosesau disgyblu yn y gweithle. Mae anghydfodau gyda gweithwyr llawrydd yn cael eu rheoli gan delerau eu contract masnachol. Fodd bynnag, oherwydd ei bod yn bosibl y bydd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol o hyd, efallai y bydd egwyddorion tegwch craidd Cod Acas yn dal yn berthnasol.
Effaith
Rhaid i unrhyw ymchwiliad ffurfiol mewnol sicrhau tegwch gweithdrefnol: hawl glir i gael rhywun gyda chi’n gwmni mewn cyfarfodydd, canfod ffeithiau’n ddiduedd cyn dod i benderfyniad, amgylchedd cyfrinachol, a llwybr apelio sy’n hawdd ei ddefnyddio. Gall methiant afresymol i ddilyn Cod Acas arwain at hyd at 25% o addasiad i unrhyw ddyfarniad y mae’n ei wneud.

Y Gyfraith
Mae’n llywodraethu’r gwaith o brosesu, diogelu, a chadw gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon. Mae cofnodion ymddygiad a ffeiliau datgelu yn debygol o gynnwys data personol sydd yn y dosbarth cyfyngedig iawn Data Categori Arbennig, y gellir ei brosesu gyda mesurau diogelu ychwanegol yn unig.
Effaith
Gall unigolyn gyflwyno Cais am fynediad at ddata gan y testun, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r busnes chwilio’n rhesymol ac yn gymesur am ohebiaeth a chofnodion perthnasol amdano, ac anfon copïau ato (yn amodol ar eithriadau). Rhaid i bob busnes gael proses gwyno sy’n ymwneud â diogelu data. Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y pŵer i roi dirwyon sylweddol os na chaiff data personol ei drin yn gywir.

Y Gyfraith
Gall fod yn drosedd i rywun anfon neges sy’n ofnadwy o sarhaus, anweddus, anllad, bygythiol, neu fwriadol ffug. Weithiau mae’r bwriad i achosi pryder neu ofid yn berthnasol, yn ogystal â’r dull o anfon y neges.
Effaith
Gall negeseuon amhriodol, bwlio penodol, neu sylwadau gwahaniaethol mewn grwpiau WhatsApp, sianeli Slack, neu apiau tebyg fod yn droseddau o dan y Deddfau hyn. Gall busnesau fod yn atebol am negeseuon a anfonir gan uwch reolwyr.

Y Gyfraith
Rheolau sy’n ymwneud ag uchafswm oriau gwaith wythnosol, protocolau gwaith nos, a chyfnodau gorffwys gorfodol. Disgwylir fframwaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer canslo shifftiau yn 2027 ar gyfer gweithwyr oriau afreolaidd a chontractau dim oriau. Cyhoeddir canllawiau yng Nghanllawiau Gweithredol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer Cynyrchiadau Ffilm a Theledu. Mae rheolau ac eithriadau eraill yn berthnasol i gyfyngiadau gyrru dyddiol.
Effaith
Mae Rheoliadau 1998 yn rheoli uchafswm yr oriau gwaith wythnosol, protocolau gwaith nos, a chyfnodau gorffwys gorfodol. Er bod Rheoliad 21 yn caniatáu i gynyrchiadau sgrin addasu patrymau gorffwys safonol i gynnal parhad cynhyrchiad, mae gan fusnes ddyletswydd, lle bynnag y bo modd, i ddarparu cyfnod gorffwys cyfatebol i wneud yn iawn am golli cyfnod yn flaenorol, a bydd deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn berthnasol.

Y Gyfraith
Hawliau cyflogai i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Mae Acas yn cyhoeddi ei God Ymarfer ar Geisiadau am Weithio Hyblyg. Yn ogystal ag absenoldeb profedigaeth, mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir, mae gan weithwyr hawl hefyd i absenoldeb newyddenedigol ac absenoldeb di-dâl i drefnu neu ddarparu gofal i ddibynnydd sydd ag anghenion gofal hirdymor.
Effaith
Mae angen cynllunio’n ofalus wrth fapio risg cyn y cynhyrchu. Mae’r mathau statudol o warchodaeth yn amrywio yn ôl y math o absenoldeb. Mae rhoi aelod o’r tîm o dan anfantais broffesiynol, neu ei eithrio o gerrig milltir allweddol y prosiect oherwydd ei fod ar absenoldeb statudol neu’n gofyn am oriau hyblyg, yn gyfystyr â thorri’r gyfraith.

Y Gyfraith
Mae gan bob gweithiwr (gan gynnwys y rheini sy’n gweithio oriau afreolaidd ac yn gweithio tymor byr) hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dibynnu ar eu hoedran. Mae CThEF yn gorfodi cydymffurfiad ar ran yr Asiantaeth Gwaith Teg. Mae’n bosib i gyflogwyr nad ydyn nhw’n cydymffurfio gael eu henwi’n gyhoeddus.
Effaith
Gall torri’r rheolau arwain at ôl-dalu ôl-ddyledion, cosbau ariannol o hyd at 200% o gyflogau heb eu talu ddigon. Mae CThEF yn cyhoeddi rhestr wirio i helpu i benderfynu a yw rhywun yn cael ei ystyried yn weithiwr at y dibenion hyn.

Y Gyfraith
Mae’r Asiantaeth Gwaith Teg yn un corff gorfodi newydd, ac mae’n uno safonau asiantaethau cyflogi, cydymffurfedd â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a gofyniad newydd o ran cadw cofnodion ar gyfer hawliau absenoldeb a hawliau tâl. Bydd rhagor o bwerau’r Asiantaeth yn dod i rym yn y dyfodol.
Effaith
Mae’r Asiantaeth Gwaith Teg yn cynyddu’r elfen cydymffurfio ar draws y sector sgrin yn sylweddol drwy ganoli’r broses orfodaeth mewn un corff sydd â phwerau ymchwilio ehangach. Mae busnesau a oedd yn arfer meddwl am achosion o dorri rheolau Isafswm Cyflog Cenedlaethol, achosion o gyflogau statudol heb eu talu, neu achosion o dorri rheolau gweithwyr asiantaeth fel rhai risg isel yn wynebu camau gorfodi cydgysylltiedig erbyn hyn yn hytrach na phroses oruchwylio dameidiog. Gall yr asiantaeth ymchwilio’n rhagweithiol (nid dim ond ymateb i gwynion) sy’n golygu bod achosion systemig o beidio â thalu digon neu arferion ymgysylltu sy’n camfanteisio yn fwy tebygol o gael eu canfod a chamau yn cael eu cymryd yn eu cylch.