Pam mae hyn mor bwysig? Oherwydd mae'n helpu pobl nid yn unig i ddatblygu fel gweithwyr proffesiynol, ond hefyd i ddeall beth sydd ei angen arnoch. Mae gofyn 'Beth aeth yn dda?' ac 'Un peth i'w newid y tro nesaf' yn annog pobl i feddwl ac yn eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau a'u rhoi ar y trywydd cywir.

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk
Efallai bod dweud 'Gwaith Da!' yn teimlo'n braf, ac yn well byth i'w glywed, ond i lawer o bobl, dyma'r adborth mwyaf maen nhw'n ei gael o ddydd i ddydd. Mae'n cynnig eiliad o gydnabyddiaeth, ond nid yw'n cynnig y ddealltwriaeth sydd ei hangen i dyfu, gwella na theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi go iawn. Gall rhoi a derbyn adborth penodol ac ystyrlon deimlo'n frawychus, ond mae'n sgil y gellir ei dysgu, ei hymarfer a'i chryfhau.
Pan fydd adborth da yn cael ei roi, gall fod yn drawsnewidiol i bobl a sefydliadau. Yn hytrach na rhoi adborth ar hyd y ffordd ac aros am yr adolygiad blynyddol, mae deialog agored, rheolaidd, yn rhoi cyfle i weithwyr 'adolygu a golygu' eu hymddygiad ar y pryd. Mae adborth effeithiol yn cadw nodau mewn cof a'r camerâu'n troi, gan sicrhau bod pob penderfyniad creadigol yn cyd-fynd â'r stori rydyn ni eisiau ei hadrodd.
Mae'n hawdd i adborth deimlo fel cosb, gan sbarduno ofn a mynd yn amddiffynnol. Ond drwy ei gyflwyno gyda gofal ac empathi, a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn ogystal â'r pethau negyddol, mae adborth yn dod yn broses gefnogol. I'r rhan fwyaf ohonom, mae hyn yn golygu ail-fframio ein meddylfryd: nid yw adborth yn ymwneud â thynnu sylw at ddiffygion neu ganfod bai pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le, mae'n ymwneud â meithrin potensial a datgloi creadigrwydd. Nid yw gwreiddio diwylliant adborth yn digwydd ar unwaith, mae’n broses o gymhwyso ychydig o egwyddorion yn gyson, nes byddwch yn symud i'r cyfeiriad iawn.
Mae adborth i bawb - dylai lifo i fyny i benaethiaid, yn ogystal ag i lawr. Creu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i weithwyr roi mwy o adborth.
Bod yn berchen ar eich datblygiad eich hun - grymuso aelodau'r tîm i fynd ati'n rhagweithiol i ofyn am adborth a rhannu syniadau ystyrlon ag eraill.
Arwain drwy esiampl - dylai rheolwyr ac arweinwyr fodelu'r ymddygiadau maen nhw'n disgwyl eu gweld. Chi sy'n gosod y patrwm y bydd pobl eraill yn ei ddilyn.
Ymgorffori adborth - ei gynnwys mewn prosesau o ddydd i ddydd, gan ganolbwyntio ar sicrhau ei fod yn dod yn ymarfer rheolaidd ystyrlon, nid ymarfer ticio blychau achlysurol.
Annog pobl i gymryd rhan - gofynnwch am adborth am unrhyw ddulliau newydd, peidiwch â'u datblygu ar eu pen eu hunain. Mae angen i chi ddeall beth sy'n gweithio a beth sydd angen ei olygu.
I roi adborth sy'n cael effaith, gallwch fireinio eich sgiliau drwy ddilyn ychydig o strategaethau syml:
Gweithredwch yn gyflym - gall adborth fod ar ei orau tra bod y profiad yn dal yn ffres, nid wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach. Defnyddiwch eich sgyrsiau rheolaidd i agor y ddeialog. Ond os bydd rhywbeth pwysig yn codi, peidiwch â bod ofn trefnu cyfarfod penodol, mae'n dangos bod yr adborth yn bwysig.
Canolbwyntiwch ar ffactorau y gall yr unigolyn eu rheoli, meddyliwch am ymddygiadau, nid nodweddion. Ni ddylai adborth deimlo fel ymosodiad ar gymeriad rhywun.
Er enghraifft: yn hytrach na thynnu sylw at nodwedd personoliaeth, disgrifiwch yr ymddygiadau rydych chi'n sylwi arnynt. Trowch 'mae angen i ti fod yn fwy carismatig' yn 'Roeddet ti ar dy liniadur yn y cyfarfod a doeddet ti ddim wir yn cyfrannu at y drafodaeth. Beth fyddai’n ddelfrydol yw...’
Byddwch yn benodol a defnyddiwch enghreifftiau. Canolbwyntiwch ar yr hyn a ddigwyddodd, yr effaith, a ffyrdd o wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol.
Er enghraifft: 'Fe wnes i sylwi dy fod ar dy liniadur yn y cyfarfod ac na wnes di gyfrannu, a allai gael ymddangos fel nad oedd gen ti ddiddordeb. Y tro nesaf byddai’n syniad da i ti gadw'r gliniadur a chanolbwyntio ar y sgwrs.
Hyd yn oed yn well na dweud yn uniongyrchol wrth rywun beth i'w wneud yn wahanol, dylech ei annog i hunanfyfyrio. I wneud hyn heb orlethu pobl, gallwch ddefnyddio rhai awgrymiadau syml ar ddiwedd tasg neu gyfarfod:
Beth sydd wedi gweithio’n dda? Mae hyn yn annog pobl i gydnabod llwyddiannau a chryfderau.
Beth fyddai’n syniad da ei newid y tro nesaf? Mae hyn yn nodi un maes gwella ar gyfer camau nesaf clir.
Oes angen help arnat i gyflawni hynny? Mae hyn yn creu amgylchedd i rywun ffynnu.
Cysylltwch adborth â nodau cyffredin a chreu llinell glir i'r darlun ehangach. Rydyn ni i gyd yma i greu gwaith o ansawdd uchel i wasanaethu ein cynulleidfa. Gall atgyfnerthu sut mae pob unigolyn yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r nodau hyn fod yn ysgogiad
Does dim rhaid iddo fod yn berffaith, ond pan fydd adborth yn amserol, yn benodol ac wedi'i wreiddio mewn nodau cyffredin, mae'n dod yn gatalydd ar gyfer creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus. Drwy wreiddio arferion ystyriol ac annog deialog agored, gallwn greu timau sy'n teimlo eu bod yn cael eu clywed ac sy'n barod i gyflawni eu gwaith gorau.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Megan Edwards, Uwch Gymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth