Mae cadw golwg ar lwyth gwaith eich gweithwyr yn helpu pawb i wneud eu gorau ac i osgoi gorweithio.

Os hoffech chi gael fersiwn brintiedig o'r gyfres gyfan, yna cysylltwch â ni ar hello@workwiseforscreen.org.uk
Canfu arolwg yn 2024 gan yr Elusen Ffilm a Theledui
fod 35% o weithwyr yn y diwydiant yn dioddef o iechyd meddwl gwael (canran uwch nag mewn diwydiannau eraill).
Dywedodd 63% o weithwyr fod hyn yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, ac mae 64% wedi ystyried gadael y diwydiant
Dim ond 12% sy'n credu bod y diwydiannau sgrin yn lle iach yn feddyliol i weithio ynddynt.
Un ffactor canolog yw llwythi gwaith a sut y cânt eu rheoli.
Disgwyliadau a gofynion uchel a'r gred y dylai gweithwyr allu cynhyrchu llawer iawn o waith yn gyflym.
Mae gofynion cystadleuol yn ychwanegu at straen, gyda gweithwyr yn jyglo llawer o dasgau, yn aml heb lawer o gefnogaeth. Gallai ychwanegu tasg arall droi'r fantol yn iechyd meddwl gwael.
Mae galw uchel yn golygu oriau rhy hir, ychydig iawn o egwyliau, a theithiau hir weithiau.
Mae'n anodd bod ar eich gorau a sicrhau canlyniadau pan nad oes llawer o adborth prydlon, os o gwbl. Gall gorfod cynhyrchu nifer o allbynnau o fewn amserlenni tynn fod yn flinedig.
Mae natur ‘gormod neu ddim digon’ y byd cynhyrchu yn creu teimladau o ansicrwydd swydd a phryder ariannol sy'n golygu bod gweithwyr yn ymgymryd â nifer o brosiectau, fel bod ganddynt incwm y gallant fyw arno.
Os nad yw llwythi gwaith yn cael eu rheoli, mae'r canlyniadau i'r diwydiant yn peri pryder, gan gynnwys:
Cynnydd mewn cyflyrau iechyd fel blinder, cwsg aflonydd, mwy o gamddefnyddio sylweddau, gorbryder, iselder a chwythu plwc.
Gwaith o ansawdd gwael oherwydd llai o gymhelliant, ymgysylltu a thorri corneli i gyflawni tasgau.
Pryderon recriwtio a chadw ar gyfer y diwydiant yn y tymor hir.
Mae sgiliau da wrth reoli pobl yn hollbwysig.
Nid yw hyn mor hawdd ag y mae'n swnio, ac fel y gallai llawer o bobl dystio, gall hyn fod yn anodd iawn yn ymarferol oherwydd y tensiynau cynhenid yn y diwydiant a'r angen cyson i wneud mwy am lai. Ond dyna pam mae trafodaethau agored rhwng rheolwyr cynhyrchu a staff yn allweddol.
Neilltuwch amser penodol mewn prosiectau i holi pobl yn iawn. Nid sgwrs arwynebol yw hon, holi 'sut ydych chi?' i fod yn gwrtais, ond sgwrs go iawn am les corfforol a meddyliol unigolyn, a thrafodaeth am lwyth gwaith.
Mae'n golygu holi a gwneud yn siŵr bod y gwaith dan reolaeth, neu a oes pryderon ynghylch bodloni terfynau amser. Holwch gwestiynau fel: Beth sydd ar eich plât ar hyn o bryd? Ydych chi'n teimlo bod gennych ormod o dasgau? Sut gallwn ni wneud lle ar gyfer tasg frys?
Dylech ystyried dyrannu gwaith. Os oes rhywun eisoes yn gweithio ar nifer o dasgau, os ydych chi'n rhoi rhywbeth ychwanegol iddyn nhw, beth y gellir ei gymryd oddi arnyn nhw? Er enghraifft, os rhoddir tasg greadigol i weithiwr ei chwblhau, a oes modd dirprwyo gwaith gweinyddu prosiect yn rhywle arall er mwyn iddo allu canolbwyntio ar y brif dasg dan sylw?
Galluogi cyfathrebu agored fel bod gweithwyr yn teimlo'n ddigon cyfforddus i drafod pwysau llwyth gwaith heb boeni am ôl-effeithiau. Po fwyaf y bydd y sgyrsiau hyn yn digwydd, yr hawsaf fydd hi i'w cynnal.
Defnyddio dull sy'n seiliedig ar atebion. A oes modd rhannu tasgau'n dasgau bach y gellir eu rheoli? A all tîm ehangach gyflawni tasgau? Beth yw'r brif flaenoriaeth a beth all aros?
Drwy flaenoriaethu’r broses o reoli llwyth gwaith, bydd rheolwyr cynhyrchu yn sicrhau gwell canlyniadau a lles gweithwyr, sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Sofia Bajorek, Uwch Gymrawd Ymchwil, Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth
Darllen pellach:
Burnout in the Creative Industries: Why passion can’t replace healthy working conditions
I’m tired of the creative industries, and I’m sure you are too
How to Manage a Creative Team: 8 Strategies that Actually Work
How to Manage Performance for Creative Work
Gifford, J., Maxwell, G. and Young, J. (2021) Mental wellbeing and digital work: evidence summary. London: Chartered Institute of Personnel and Development.
Barends, E., Wietrak, E., Cioca, I. and Rousseau, D. (2021) Mental wellbeing and digital work: an evidence review. Scientific Summary. London: Chartered Institute of Personnel and Development.
Job quality in the Creative Industries: The final report from the Creative PEC’s Good Work Review